Y mae gwres o fewn fy mynwes

(Ochenaid)
Y mae gwres o fewn fy mynwes,
  Y mae cystudd tan fy mron,
Ac nid oes a'm dod yn llawen
  Gylch o ddautu'r ddaear hon;
Rhaid i mi fod yn dy gwmpni,
  Rhaid i mi gael gweld dy wedd,
Ynteu ni wnai fyth ond nychu
  Tra fwy'r ochr yma i'r bedd.

Mae pob tristwch gydâ'i gilydd,
  Pob cystuddiau yn gytun,
Heb ystyried wanned ydwyf
  Oll yn curo arna'i'n un;
Teithio i'r lan yn erbyn tylau,
  Meddwl hefyd ar bob bryn,
Nad rhaid cerdded cyn im' orphwys,
  Bellach byth o'r llwybr hyn.

Ond fy mhrofiad sydd yn tystio
  Er nad ydwyf fi ond gwan,
Fod rhaid i mi etto ddringo
  'R un rhyw greigydd serth i'r lan;
Gorphyws gronyn bach a chanu,
  Yn rhydd o'm cystudd
      oll ei gyd,
Yn y man ochneidio a griddfan,
  Fydd fy nghyflwr
      tr'wy'n y byd.

Does ond cariad a gongcwera,
  Oll sydd ynnwi nawr yn ddrwg,
Dy wên yn unig wna im' ganu,
  Torri nghalon wna dy ŵg:
Fy nghof, fy neall, a'm synhwyrau,
  Sydd ymron llewygu eu gyd;
Ac yn ffaelu cadw eu trefn,
  Eisiau gweld dy wyneb pryd.

O derchafa'm henaid egwan!
  Y mae bellch yn hwyrhau,
Hir yw'r amser i ochneidio,
  Gwna fi o'r diwedd lawenhau:
Moroedd mawr a bryniau lawer,
  Pellder annioddefol sy;
Ac anialwch maith digymmar,
  Rhyngof a'm Hanwylyd cu.

Poen fy nghalon yw o gariad,
  Estron nid yw'n deall dim,
Gair fy Mhriod laesa mhoenau,
  Ei eiriau sy'n effeithiol im';
Lladd yn ddistaw mae ei gariad,
  Heb gael gweld ei nefol wedd,
Mae eiddigedd yn ei gwmpni,
  Sydd yn greulon fel y bedd.

O na b'ai rhyw ddyfais hyfryd,
  Tan yr wybr lâs ei gyd,
Allai gadw'm henaid egwan,
  Yn dy gwmpni di o hyd;
Byth ni phrifiwn doed a ddelo,
  Beth ddigwyddo îs y nen,
Ar dy fynwes dêg berffeithlan,
  Byth y pwyswn i fy mhen.

O foreuddydd y briodas!
  Gwynfyd wele'r ddedwydd awr;
Gweld wynebpryd y Priodfab,
  Clywed llais y delyn fawr;
Awn tan ganu dros y moroedd
  Meithion tu a'r hyfryd wlad,
Ac anghofiwn hen gariadau,
  Gwag bleserau tŷ fy Nhad.
William Williams 1717-91
Mor o Wydr 1773

Tonau [8787D]:
New Jersey (<1825)
Trowbridge (<1811)

gwelir:
  Mae'r anialwch wedi mlino
  O am nerth i dreulio 'nyddiau
  O derchafa'm henaid egwan
  O foreuddydd y briodas
  Wele'r hafan wele'r ardal

(Groan)

There is warmth within my bosom,
  There is affliction under my breast,
And nothing brings me joy
  Around about this earth;
I must be in thy company,
  I must get to see thy face,
Or else I shall only languish
  While I am on this side of the grave.

Every sadness all together,
  All afflictions in agreement,
Without considering how weak I am,
  Are beating upon me as one;
Travelling up against gradients,
  Thinking also about every hill,
That I must walk before I rest,
  Henceforth forever from this path.

But my experience is witnessing
  Although I am only weak,
That I must yet climb
  Up the same sort of rocky incline;
To rest a little while and sing,
  Free from my all my
      afflictions altogether,
In a while sighing and groaning,
  Shall be my condition
      while I am in the world.

Only love shall conquer,
  All that is evil in me now,
Thy smile alone makes me sing,
  Break my heart does thy frown:
My memory, my understanding, and my senses,
  Are all about to faint;
And failing to keep their control,
  Wanting to see thy countenance.

O raise my weak soul!
  It is now getting late,
Long is the time for groaning,
  Make me at last rejoice:
Great seas and many hills,
  Insufferable distance there are;
And an incomparably vast desert,
  Between me and my dear Beloved.

The pain of my heart is from love,
  No stranger understands at all,
The word of my Spouse eases my pains,
  His words are effective to me;
Killing quietly is his love,
  Without getting to see his heavenly face,
There is a jealousy in his company,
  That is as cruel as the grave.

O that there would be some delightful device,
  Under all the blue sky,
That could keep my weak soul,
  In thy company always;
I would never flourish come what may,
  Whatever should happen under heaven,
Upon thy fair, perfectly holy bosom,
  Forever I would lean my head.

O morning of the wedding!
  How blessed to see happy hour;
To see the countenance of the Bridegroom,
  To hear the voice of the great harp;
I would go, singing, over the vast
  Seas towards the delightful land,
And I would forget old loves,
  The empty pleasures of my Father's house.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~